Llawr Gwaelod
- Mynedfa fawr, olau gyda lloriau derw, stôf goed aml-danwydd a man eistedd
- Lolfa sylweddol gyda seddi cyfforddus; teledu sgrin wastad gyda Freesat, chwaraewr DVD a golygfeydd ysblennydd o Fynyddoedd Cambrian ac Epynt
- Cegin wedi’i gyfarparu’n llawn gydag offer yn cynnwys popty trydan gyda hob; peiriant golchi llestri; microdon; tostiwr; oergell a rhewgell
- Ardal fwyta integredig gyda bwrdd derw sy’n eistedd deg
- Ystafell Aml-bwrpas/Golchi – gyda pheiriant golchi, sychwr dillad, cyfleusterau ailgylchu ac ystafell gotiau ar wahân
- Ystafell gawod gyda chawod â mynediad gwastad, toiled a basn ymolchi
Llawr Cyntaf
- Grisiau derw trawiadol yn arwain at ben grisiau eang gyda phedair ystafell wely
- Dwy ystafell wely maint brenin gyda chyfleusterau en-suite
- Un ystafell wely maint brenin gyda ffenestri panoramig a golygfeydd godidog
- Un ystafell wely ddwbl
- Ystafell ymolchi deuluol fawr gyda chyfleusterau bath a chawod ar wahân, toiled; basn ymolchi a rheilen tywelion wedi’i gynhesu.
Llawr Isaf
- Ystafell wely ddwbl ychwanegol gyda dau wely sengl
- Mynediad cefn i’r adeilad gyda choridor teils
Tu allan
- Maes parcio oddi ar y ffordd ar gyfer 6/7 car
- Twba poeth mawr
- Lawnt fawr gyda llwybr graean yn rhedeg o amgylch talcen y tŷ
- Sied storio y gellir ei chloi – addas ar gyfer beiciau ac ar gael i’w defnyddio gan westeion
- Dodrefn gardd tu allan – byrddau, cadeiriau ac ymbarelau
- Barbeciw
Cyfleusterau a gwybodaeth ychwanegol
System wresogi tan llawr trwyddo
Lluniaeth rhad ac am ddim i’ch croesawu: te, coffi, siwgr, llaeth a theisennau
Cyfleusterau babanod a phlant bach: cadair uchel; cot cwympadwy; pot, sedd toiled a gris fach; cyllyll a llestri plastig; dewis o deganau, llyfrau a DVDs; teganau tu allan
Lliain gwely glan a ffres, tywelion llaw a bath a chadachau sychu llestri
Basged o goed tân sych (gellir prynu mwy am gost resymol gan y perchennog)
Barbeciw
Parcio oddi ar y ffordd
Sychwyr gwallt ym mhob ystafell
Gellir trefnu i’ch nôl o’r orsaf reilffordd leol ar gais
Haearn smwddio a bwrdd smwddio
Mynediad am ddim i’r rhyngrwyd
Cydnabyddiaeth i Ysgubor Gwedd y Glyn
“Am le ardderchog. Cawsom ein syfrdanu gan faint y lle, y nifer o ystafelloedd cawod (perffaith ar gyfer beicwyr mwdlyd)!Cyfan gwbl wych!”
“Diolch am groeso cynnes a chyfeillgar ac am arhosiad hyfryd yn eich bwthyn ardderchog, o’r radd flaenaf. Y cyfan y gallech ei ddymuno a mwy! Mae’r golygfeydd o’r bwthyn yn anhygoel ac yn lleoliad mor brydferth.”
“Penwythnos hyfryd. Llety gwych – eang a chyfforddus iawn. Y cyfan y gallem fod wedi ofyn amdano!”
“Lleoliad, llety a gwasanaeth syfrdanol!”
“Ysgubor wedi’i dodrefnu’n hyfryd a lleoliad delfrydol i leoli ein hunain i archwilio harddwch naturiol eithriadol cefn gwlad Canolbarth Cymru. Roedd y plant wrth eu boddau a chafodd yr oedolion wyliau hamddenol a phleserus…..’ perffaith’
“Mae’r llety yn benigamp! Delfrydol iawn! Helaeth; llawn cyfarpar; eithriadol o lân; sylw rhagorol i fanylion – un o’r goreuon.”
“Ni allwn fod wedi dewis lle mwy dymunol i aros. Mae’r tŷ yn hyfryd ac yn berffaith ar gyfer teuluoedd. Mae’r perchnogion yn anhygoel ac mor gymwynasgar. Welwn ni chi flwyddyn nesaf!”
“Dwi wedi aros mewn llawer o fythynnod ond mae hwn ar frig y rhestr.”
“Mae’r bwthyn wedi’i gynllunio’n yn ddymunol ac mae’r cyfleusterau’n dda iawn. Mae cymaint o lefydd i ymweld â nhw ar droed ac mewn car. Byddwn yn bendant yn argymell aros yma fel grŵp neu deulu.”
“Am leoliad hyfryd a thŷ bendigedig! Mae’r holl ystafelloedd yn gyfforddus ac yn hamddenol. Mae’r dodrefn o safon ac yn ddeniadol! Mae’r gwelyau mor gyfforddus ac roedden ni wrth ein bodd â’r gwres tan y llawr oedd yn bleserus iawn. Rydych chi wedi meddwl am bopeth! Roedd y gegin yn hyfryd i goginio ynddi! Diolch yn fawr am eich cymwynas a’ch croeso!”
“Roedd y llety yn fendigedig (llawer gwell na’r lluniau ar-lein). Cefais amser gwych yn dathlu fy mhen-blwydd yn 30 oed gyda 9 arall ac roedd yr ysgubor yn fwy nag addas i ddarparu ar ein cyfer. Byddwn yn bendant yn ei argymell!”
“Arhosiad gwych arall! Mae o’n lle syfrdanol.”
“Rydyn ni wedi cael amser gwych yma – fe allen ni fyw yma yn eithaf hapus! Mae’n drysor o le ac roedd yn deimlad gwych cael cymaint o ofod. Byddem wrth ein bodd yn dychwelyd yma eto – mae’r ardal gyfagos yn wirioneddol brydferth.”
“Roedd y llety yn llawer gwell na’n disgwyl. Golygfeydd gwych, syfrdanol. Yn bendant yn haeddu 5 seren. Yn ei argymell yn fawr. “
“Cawsom wyliau gwych. Mae’r ysgubor yn gyfforddus ac eang iawn gyda chyffyrddiadau cartrefol hyfryd. Mae’r plant wedi mwynhau chwarae tu allan yn ddiogel.”