Llawr Gwaelod
- Mynedfa draddodiadol gyda llawr teils coch yn arwain at y grisiau derw gwreiddiol,
- Lolfa hamddenol gyda seddi cyfforddus; teledu sgrin wastad gyda Freesat, chwaraewr DVD a golygfeydd ysblennydd o Fynyddoedd Cambrian ac Epynt
- Cegin wedi’i gyfarparu’n llawn gydag offer sy’n gynnwys popty trydan gyda hob; peiriant golchi llestri; microdon; tostiwr; oergell a rhewgell
- Ardal fwyta fach integredig
- Ystafell fwyta/eistedd fawr gyda stôf aml-danwydd a dau fwrdd derw mawr a seddi ar gyfer hyd at 14 o bobl
- Ystafell golchi dillad/aml-bwrpas gyda pheiriant golchi, sychwr dillad, cyfleusterau ailgylchu ac oergell ychwanegol o dan y cownter
- Ystafell gawod gyda chawod â mynediad gwastad, toiled a basn ymolchi
Y Llawr Cyntaf
- Dwy res ar wahân o risiau derw yn arwain at ben grisiau hyd y tŷ gyda phedair ystafell wely
- Un ystafell wely maint brenin gyda chyfleusterau en-suite a golygfeydd bendigedig
- Un ystafell wely gyda dau wely sengl gyda golygfeydd penigamp
- Un ystafell wely ddwbl gydag en-suite, lle tân gwreiddiol a chwpwrdd
- Un ystafell wely sengl
- Ystafell ymolchi deuluol gyda bath ar wahân, toiled; basn ymolchi a rheiliau tywel wedi’u cynhesu
- Ystafell gawod i’w rhannu, gyda chawod â mynediad gwastad, toiled a basn ymolchi
Ail Lawr
- Grisiau derw yn arwain at ystafell wely maint brenin hunangynhwysol gydag ardal eistedd fach
- Ail res o risiau derw yn arwain at ystafell eistedd fawr gyda theledu; ardal chwarae i blant gyda Thŷ Chwarae; Ystafell gawod gyda thoiled a basn ac ystafell wely maint brenin
Tu allan
- Maes parcio oddi ar y ffordd ar gyfer ceir 6/7
- Lawnt fawr
- Patio wedi balmantu, dodrefn gardd – byrddau, cadeiriau ac ymbarelau
- Sied storio y gellir ei chloi – addas ar gyfer beiciau ac ar gael i’w defnyddio gan westeion
- Dodrefn gardd tu allan – byrddau, cadeiriau ac ymbarelau
- Barbeciw
Cyfleusterau a gwybodaeth ychwanegol
System wresogi tan llawr i ardaloedd llawr gwaelod
Lluniaeth rhad ac am ddim i’ch croesawu: te, coffi, siwgr, llaeth a theisennau
Cyfleusterau babanod a phlant bach: cadair uchel; cot cwympadwy; pot, sedd toiled a gris fach; cyllyll a llestri plastig; dewis o deganau, llyfrau a DVDs; teganau tu allan
Lliain gwely glan a ffres, tywelion llaw a bath a chadachau sychu llestri
Basged o goed tân sych (gellir prynu mwy am gost resymol gan y perchennog)
Barbeciw
Parcio oddi ar y ffordd
Sychwyr gwallt ym mhob ystafell
Codi’r orsaf reilffordd leol ar gais
Haearn smwddio a bwrdd smwddio
Mynediad am ddim i’r rhyngrwyd
Cydnabyddiaeth i Ffermdy Dinas
“Nid DA, ond DA IAWN!” “Wedi cael penwythnos wych. Croeso cyfeillgar iawn. Lle gwefreiddiol. Byddem wrth ein boddau yn dod nôl. Diolch yn fawr!”
“Gwely cyfforddus iawn! Lleoliad gwych. Byddwn wrth fy modd yn dychwelyd. Diolch yn fawr!”
“Cartref arbennig mewn lleoliad hardd iawn. Yn berffaith lân gyda gwelyau cyfforddus iawn. Rwy’n falch iawn fy mod wedi aros yma – gresyn na allaf fod wedi aros yn hwy!”
“Arhosiad hyfryd. Tŷ bendigedig a chroeso cynnes iawn. Rydym i gyd wedi mwynhau ein hymweliad a byddem yn argymell y tŷ hwn yn fawr.”
“Roedd y tŷ yn fawr iawn gyda llawer o ystafelloedd. Roedd ganddo leoedd gwych ar gyfer chwarae cuddio. Fe ymunodd y teulu cyfan!”