Llety
Mae gennym dri llety hardd ar eich cyfer, y gellir eu gosod arwahân. Gellir hefyd llogi Ffermdy Dinas ac Ysgubor Gwedd y Glyn gyda'i gilydd, sy’n cysgu hyd at 22 o westeion.Ysgubor Gwedd y Glyn
Ffermdy Dinas
Rock House
Rock House – adeiladwyd yn y 1800au – tŷ pâr, gyda dwy ffenestr fae, wedi’i leoli dafliad carreg o’r amwynderau lleol – siopau, garej, tafarndai a bwytai. Wedi ei leoli ar ymyl yr Afon Irfon, mae ganddo fan eistedd yn edrych dros yr afon a’r bryniau pell.
Mae’r cartref hwn, llawn cyfarpar addas, yn darparu llety cyfforddus, hunan ddarpariaeth ar gyfer 6 o bobl. Mae ganddo ystafell fyw fawr, cegin fwyta cynllun agored yn ogystal â storfa ar gyfer beiciau a dillad awyr agored yn yr ystafell aml-bwrpas fawr.
Ansicr pa eiddo i ddewis?
Cysylltwch â ni i gael sgwrs am eich gofynion a byddwn yn eich helpu i ddewis yr eiddo fydd orau i chi!