Dathliadau

Mae Llety'r Llan yn lleoliad canolog delfrydol ar gyfer cyfarfodydd, gweithdai, cynadleddau bach a chiniawau. Gall eich gwesteion fwynhau eu hamser yn y lleoliadau unigryw hyn gyda golygfeydd godidog i lawr y dyffryn.

Gellir darparu llety neu gellir llogi’r eiddo ar gyfradd ddyddiol yn unig.

Rydym yn hapus i’ch helpu i drefnu arlwyo bwyd o’r radd flaenaf, gweithgareddau awyr agored neu adloniant pan fyddwch yn archebu.

Rydym bob amser yn anelu at fod yn hynod hyblyg a byddwn yn gwneud ein gorau i addasu’r lleoliad i weddu i anghenion a gofynion y digwyddiad.

Yn ddiweddar, cynhaliodd Ffermdy Dinas ddathliad  Priodas Ruddem ar gyfer 27 o westeion gyda bwffe eistedd lawr. Roedd digon o le i’r holl westeion, cegin fawr i baratoi’r bwyd, derbyniad diodydd a gynhaliwyd yn ardal y lolfa a digon o gyfleusterau toiled.

Yn ddiweddar croesawom grŵp o ddeuddeg o bobl i Ffermdy Dinas am de prynhawn dathliadol.

Creodd y lleoliad hyfryd argraff fawr ar y gwesteion a mwynhawyd de prynhawn hyfryd a gyflenwyd gan Bryncelyn Guesthouse, Llanwrtyd.

Mae’n bleser gallu gweithio ochr yn ochr â sefydliadau eraill a chefnogi busnesau lleol.