Croeso
Mae Ysgubor Gwedd y Glyn a Ffermdy Dinas wedi’u lleoli yn rhan uchaf Cwm Irfon– Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, a dim ond milltir o’r ‘Dref leiaf ym Mhrydain’ – Llanwrtyd. Dyma leoliad canolog perffaith ar gyfer gwyliau teulu; aduniadau; achlysuron arbennig; cyfarfodydd busnes; Cyrsiau preswyl neu ddathliadau priodas..
Mae’r ddau eiddo unigryw yma wedi’u lleoli o fewn tafliad carreg i’w gilydd a gellir eu llogi ar wahân neu gyda’i gilydd, gan gynnig llety i hyd at 22 o bobl. Mae’r ddau yn darparu llety cyfforddus iawn ac, ar gyfer y rhai mwy egnïol, maent hefyd yn hwylus iawn ar gyfer llawer o weithgareddau awyr agored.
Mae Rock House wedi ei leoli yng nghanol tref Llanwrtyd, o fewn pellter byr iawn ar droed i gyfleusterau lleol. Mae’r eiddo wedi’i leoli wrth ymyl yr Afon Irfon ac mae yno fan eistedd ddiarffordd sy’n edrych dros yr afon gyda golygfeydd tuag at y mynyddoedd.
Ysgubor Gwedd y Glyn
Cysgu 10, 5 ystafell wely
Mae Ysgubor Gwedd y Glyn, sy’n cysgu hyd at 10 o bobl, yn ysgubor amaethyddol hynafol,200 mlwydd oed, wedi’i hadnewyddu. Fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol o gerrig a derw lleol. Mae’r llety helaeth yma wedi ei osod allan yn hardd, wedi’i ddodrefnu’n gain a’i gwblhau i safon uchel iawn.
Ffermdy Dinas
Cysgu 12, 5 ystafell wely
Mae Ffermdy Dinas, sy’n cysgu hyd at 12 o bobl, yn ffermdy Cymreig, adeiladwyd gyntaf yn y 17eg Ganrif, wedi’i adfer yn brydferth ac yn briodol. Mae iddo gyfoeth o hanes ac adlewyrchir hyn yn yr eiddo sy’n arddangos llawer o’r nodweddion gwreiddiol.
Rock House
Cysgu 6, 3 ystafell wely
Mae Rock House, a adeiladwyd yn y 1800au, yn dŷ pâr, gyda dwy ffenestr fae, wedi’i leoli dafliad carreg o amwynderau lleol. Mae gan yr eiddo, sy’n gallu cysgu hyd at 6 o bobl, ystafell fyw fawr, cegin fwyta cynllun agored yn ogystal â storfa ar gyfer beiciau a dillad awyr agored yn yr ystafell aml-bwrpas fawr.
Yn nythu ym Mynyddoedd Cambria a nepell o Fannau Brycheiniog, mewn ardal heddychlon mae Ysgubor Gwedd y Glyn a Ffermdy Dinas,ond er hynny, maent o fewn milltir i fwytai, tafarndai a bragdy arobryn Llanwrtyd.
Mae Rock House, wedi’i leoli yng nghanol Llanwrtyd, ar ymyl yr Afon Irfon ac mae ganddo fan eistedd sy’n edrych dros yr afon a’r bryniau.
Gydag amserlen amrywiol o ddigwyddiadau sy’n cynnwys Dyn v Ceffyl; Snorclo Cors; Gŵyl Gwrw; gwylio adar; beicio mynydd; merlota; cerdded a physgota, mae Llanwrtyd yn ganolfan unigryw ar gyfer llawer o weithgareddau awyr agored. Mae’r ardal yn un o harddwch naturiol eithriadol ac yn gynefin i lawer o rywogaethau prin, yn fwyaf nodedig y Barcud Coch.