Wedi cerdded o un pen Cymru i’r llall ar gyfer elusen Ambiwlans Awyr Cymru, roedd Rhys Meirion angen rhywle i gael ei wynt ato. Ar ôl teithio’r 200 milltir o’r de i’r gogledd, roedd y seren opera eisiau gorffwys, ymlacio a’r cyfle i dreulio amser gyda’i deulu.

Mae Rhys Meirion yn un o’r Tri Thenor Cymreig ynghyd ag Aled Hall ac Alun Rhys-Jenkins. Mae wedi perfformio ar rai o lwyfannau gorau’r byd ac wedi teithio’r byd gan ymddangos gydag Opera Frankfurt; Opera Gorllewin Awstralia; Opera Awstralia a Chymdeithas Opera Hong Kong, ond dewisodd ddod ar wyliau i un o ardaloedd prydferthaf Cymru.

Yn syth wedi perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol, manteisiodd y tad i dri ar y cyfle i aros yn Ysgubor Gwyliau ‘Gwedd y Glyn’ tu allan i Lanwrtyd yng nghalon canolbarth Cymru. Llanwrtyd yw cartref Pencampwriaethau Snorclo Cors a’r ras Dyn v Ceffyl.

Hyd yn oed cyn iddo gyrraedd fe bostiodd Meirion ei gyffro ar Twitter, gan ddweud wrth ei 2,000 o ddilynwyr ei fod ar fin treulio amser yn ‘Gwedd y Glyn’. Fe wnaeth y cefnogwr rygbi brwd hyd yn oed gyhoeddi llun o’r ysgubor gwyliau 5 seren, a agorwyd ym mis Ebrill 2013 ac sydd wedi croesawu llif cyson o ymwelwyr ers hynny.

Roedd Rhys Meirion, a ymddangosodd yn ddiweddar ar Songs of Praise o Lwybr Arfordir Cymru ar y BBC, yn llawn canmoliaeth i ‘Gwedd y Glyn’. Diolchodd i’r gwesteiwr a’r teulu am y croeso cynnes

Dywedodd: “Ar ôl cyfnod hynod o brysur, dyma’r lle delfrydol i dreulio amser gyda’ch teulu ac i ddod atoch hun. Cawsom groeso cynnes iawn yn yr ysgubor hardd a chyfforddus hon mewn lleoliad trawiadol. Byddwn yn sicr yn dychwelyd i ‘Gwedd y Glyn'”.