Y Lleoliad

Ceir yma rhywbeth at ddant pawb, o wyliau gweithgareddau, heicio, bywyd gwyllt, awyr dywyll, a threftadaeth.

Lleolir Ysgubor Gwedd y Glyn  a Ffermdy Dinas brin filltir  y tu allan i Lanwrtyd  ym Mhowys, Canolbarth Cymru.  Mae Rock House wedi’i leoli yn nhref Llanwrtyd ei hun. Mae Powys yn un o’r ardaloedd lleiaf poblog yng Nghymru a Lloegr ac mae’n gartref i dirweddau trawiadol  Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Mynyddoedd  Cambrian a Chronfeydd Dŵr Cwm Elan.

Profodd ffigurau swyddogol mai aer Llanwrtyd yw’r glanaf yn y wlad ac mae’r lefelau isel o lygredd golau yn ei gwneud yn un o’r ychydig leoedd sydd ar ôl lle gallwch barhau i weld y Llwybr Llaethog a chytserau eraill yn y nos.

Saif Llanwrtyd ar lan yr Afon Irfon ar yr A483 rhwng Llanfair-ym-Muallt a hen dref farchnad Llanymddyfri.

Gyda phoblogaeth o tua 800 ymddangosodd y dref yn y ‘Guiness Book of Records’ fel y ‘Dref leiaf ym Mhrydain’. Daeth yn enwog i ddechrau oherwydd ei ffynhonnau dwr mwynol. Yn ystod Oes Fictoria heidiodd pobl iddynt i “brofi’r dyfroedd” a chael eu gwella o ystod eang o anhwylderau.

 Yn y cyfnod cyfoes, mae Llanwrtyd yn enwog am ei hamserlen o ddigwyddiadau amrywiol ac anarferol fel Marathon Dyn v Ceffyl;  Gemau  Byd Arallddewisiol a Snorclo’r Gors.

Oherwydd ail-boblogi llwyddiannus y Barcud Coch wedi iddynt bron a marw allan, maent nawr i’w gweld yn aml yn esgyn yn wyllt ac yn rhydd yn yr awyr uwchben y dref. Un lle i ymweld ag ef yw Canolfan Fwydo Barcud Coch, Fferm Gigrin, sydd wedi’i lleoli ychydig y tu allan i Raeadr Gwy.

Os  am fwynhau’r awyr agored, mae Llanwrtyd yn ganolfan wych ar gyfer gweithgareddau fel beicio mynydd, pysgota, cerdded a gwylio adar. Mae gennym filltiroedd o olygfeydd paradwysaidd, bryniau a dyffrynnoedd afonydd gwych i’w darganfod. Hen ffyrdd y porthmyn yw llawer o’r llwybrau y gallwch eu dilyn. Fe’i defnyddiwyd ers dros 500 mlynedd gan ffermwyr i ‘yrru’ eu heidiau o dda byw i’w gwerthu ym marchnadoedd buddiol Lloegr.

Ar gyfer y rhai sydd a’u bryd ar rywbeth mwy hamddenol, gellir archwilio’r mynyddoedd, y cymoedd a’r pentrefi cyfagos trwy deithiau ceir golygfaol neu drwy ddefnyddio Rheilffordd Calon Cymru.

Mae Llanwrtyd yn wir haeddu ei harwyddair “Heddwch Ymhlith Harddwch”.

Pethau i’w gwneud

Efallai mai Llanwrtyd yw’r dref leiaf ym Mhrydain ond mae mwy na digon i’w wneud yn yr ardal.

Mae’r lleoliad canolog hwn yn cynnig mynediad hawdd i Dde a Chanolbarth Cymru, gan gynnwys Mynyddoedd Cambrian, Cwm Elan, Bannau Brycheiniog ac  arfordiroedd Sir Benfro a Cheredigion. Mae Llanwrtyd ond 15 munud i ffwrdd o faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, 40 munud ‘o’r Gelli Gandryll ac ychydig dros awr o brifddinas Cymru Caerdydd.